Enghraifft o'r canlynol | oes |
---|
Cyfnod yn hanes Lloegr a barodd teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I (1558–1603), yr olaf o'r Tuduriaid, oedd Oes Elisabeth. Portreadir y cyfnod hwn yn aml gan hanesyddion fel oes aur yn hanes Lloegr. Defnyddiwyd personoliad Britannia am y tro cyntaf yn 1572, ac yn aml wedi hynny, i nodi Oes Elisabeth fel adfywiad a ysbrydolai balchder cenedlaethol yn y Sais trwy ddelfrydau clasurol, fforio a threfedigaethu tramor, a buddugoliaeth ar y môr yn erbyn Sbaen. Dadleua'r hanesydd John Guy (1988) bod "Lloegr yn economaidd iachach, yn ehangach ei nerth, ac yn fwy gobeithiol o dan y Tuduriaid" nag ar unrhyw adeg mewn mil o flynyddoedd.[1]
Cynrychiolodd yr "oes aur"[2] hon anterth y Dadeni yn Lloegr, ym mha cyfnod blodeuai barddoniaeth a rhyddiaith yn yr iaith Saesneg, y theatr, a cherddoriaeth. Campau enwocaf yr oes yw'r dramâu arloesol gan William Shakespeare ac eraill. Y tu hwnt i ffiniau'r deyrnas, cyfnod ydoedd o fforio'r Byd Newydd, ehangu nerth y llynges, a sefydlu gwladfeydd a llwybrau masnach newydd. Yn Lloegr ei hun, daeth y Diwygiad Protestannaidd yn fwy derbyniol i'r werin, yn sicr wedi methiant Armada Sbaen i oresgyn y wlad. Teyrnasiad Elisabeth hefyd oedd yr adeg ddiweddaraf pan oedd brenhiniaeth neilltuol gan Loegr, cyn iddi uno â choron yr Alban o ganlyniad i esgyniad Iago VI, brenin yr Alban yn frenin Lloegr yn 1603.
Gellir cyferbynnu Oes Elisabeth yn eglur â theyrnasiadau'r Tuduriaid cynt ac Oes Iago a'i ddilynodd. Cyfnod byr o heddwch ydoedd, rhwng helyntion y Diwygiad yn Lloegr a'r rhyfeloedd gwleidyddol a chrefyddol ar draws Prydain ac Iwerddon yn Oes y Stiwartiaid yn yr 16g. Cafodd y ddadl rhwng Protestaniaid a Catholigion Lloegr ei llonyddu am genhedlaeth neu ddwy gan sefydlogi Eglwys Loegr, neu'r Setliad Elisabethaidd, ac nid oedd y senedd eto yn ddigon cryf i herio absoliwtiaeth y frenhiniaeth.
Roedd Lloegr hefyd yn gefnog o'i chymharu â gwledydd eraill Ewrop yn niwedd yr 16g. Daeth y Dadeni i ben yn yr Eidal o ganlyniad i oruchafiaeth Sbaen ar ddinas-wladwriaethau'r wlad honno. Cyfres o ryfeloedd a gwrthryfeloedd crefyddol oedd yn trafferthu Ffrainc, nes i'r sefyllfa yn y wlad gael ei heddychu am dro gan Orchymyn Nantes (1598). Oherwydd hyn, yn ogystal â llwyddiant y tercios Sbaenaidd wrth yrru'r Saeson ymaith y cyfandir, cafwyd gohiriad yn y gwrthdaro rhwng Lloegr a'i hen elyn Ffrainc trwy'r rhan fwyaf o deyrnasiad Elisabeth.
Prif elyn Lloegr felly oedd Sbaen, a ffrwydrodd rhyfel rhyngddynt yn y cyfnod 1585–1604 o ganlyniad i ysgarmesau yn Ewrop a'r Amerig. Methodd Felipe II, brenin Sbaen, oresgyn Lloegr a diorseddu Elisabeth gyda'i Armada yn 1588, ond er buddugoliaeth enwog y Saeson yn yr achos hwnnw trodd y rhyfel yn eu herbyn yn sgil alldaith aflwyddiannus ganddynt i Bortiwgal a'r Azores yn 1589. Wedi hynny, rhoddodd Sbaen rywfaint o gefnogaeth i Gatholigion Iwerddon mewn gwrthryfel gwan yn erbyn tra-arglwyddiaeth Lloegr dros yr ynys honno, a llwyddodd llynges a byddinoedd Sbaen atal sawl ymosodiad gan y Saeson. Treth gyson ar y Trysorlys oedd y rhyfel, gan wanhau'r economi a gafodd ei hadfywio gan Elisabeth ar ddechrau ei theyrnasiad. Roedd ymdrechion Lloegr i ledaenu ei nerth masnachol ac ehangu ei thir yn gyfwng tan i'r rhyfel dod i ben yn sgil Cytundeb Llundain (1604).
Llywodraeth ganolog, trefnus, ac effeithiol oedd gan Deyrnas Lloegr yn ystod y cyfnod hwn, yn bennaf o ganlyniad i ddiwygiadau Harri VII a Harri VIII, yn ogystal â chosbau llym Elisabeth ar gyfer unrhyw wrthwynebwyr. O ran yr economi, dechreuodd y wlad elwa'n fawr o'r cyfnod newydd o fasnachu dros yr Iwerydd a dwyn trysor oddi ar longau Sbaen.